Yn dod yn fuan: Wythnos Ymddiriedolwyr 2025

Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rhan anferthol mewn Clybiau Gofal Plant All-Ysgol. Mae llawer o Glybiau’n cael eu rhedeg gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi a sicrhau bod Gofal Plant ar gael i’w cymuned.

Mae WCVA yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein sy’n rhad ac am ddim i ymddiriedolwyr yn ystod Wythnos yr Ymddiriedolwyr 3-7 Tachwedd 2025.

Archebwch ddigwyddiadau yma gan gynnwys:

  • Uno Cwmnïau a Strwythurau Cyfreithiol
  • Gwiriad Iechyd ar Gynhyrchu Incwm
  • Canllaw i Newidiadau Diweddar yn y Gyfraith Diogelu Data
  • Gweminar gan yr ICO i arwain trwy newidiadau diweddar i gyfraith diogelu data.
  • Sut i fod yn Ymddiriedolwr: Hyfforddiant i arfogi dysgwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn ymddiriedolwyr effeithiol.
  • Diweddariad ar Newidiadau i Dŷ’r Cwmnïau: Mynd i’r afael â throseddau economaidd a chefnogi twf economaidd gyda ffocws ar ofynion gwirio hunaniaeth.
  • Ydych chi o ddifrif ynglŷn â gwneud gwahaniaeth? Dewch yn ymddiriedolwr: Sesiwn ddiddorol i archwilio rôl ymddiriedolwr a sut i wneud gwahaniaeth.

Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynllunio i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth werthfawr i ymddiriedolwyr, gan eu helpu i ddeall eu rolau a’u cyfrifoldebau’n well.

Trefnwch le trwy WCVA