Llwybrau gyrfaol gwahanol mewn Gwaith Chwarae

Mae cwblhau cymhwyster Gwaith Chwarae yn agor ystod eang o ddrysau gyrfa, gan weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, ac mewn ystod eang o rolau cymunedol neu addysgol. Dyma rai cyfeiriadau gwahanol y gallwch gymryd:

Rolau Gwaith Chwarae Uniongyrchol

  • Gweithiwr Chwarae – mewn clybiau ar ôl ysgol, clybiau gwyliau, cae antur, neu leoliadau chwarae yn y gymuned.
  • Uwch Weithiwr Chwarae / Cydlynydd Chwarae – arwain sesiynau, rheoli tîm, a threfnu darpariaeth chwarae.
  • Swyddog Datblygu Chwarae – dylunio a hyrwyddo cyfleoedd chwarae mewn awdurdod lleol neu sefydliad.
  • Therapydd Chwarae (gyda hyfforddiant pellach) – defnyddio chwarae fel offeryn therapiwtig i gefnogi lles emosiynol plant.

Gofal Plant ac Addysg

  • Cynorthwyydd Addysgu (TA) – Cefnogi plant mewn ysgolion, yn enwedig gyda dysgu sy’n seiliedig ar chwarae.
  • Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar Gweithio mewn meithrinfeydd neu leoliadau cyn-ysgol, gan ddefnyddio chwarae i gefnogi datblygiad.
  • Arweinydd Ysgol Goedwig (gyda hyfforddiant pellach) – arwain chwarae yn yr awyr agored a darparu sesiynau dysgu.

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

  • Gweithiwr Ieuenctid – Cefnogi pobl ifanc drwy chwarae, gweithrediadau cymdeithasol, a datblygiad personol.
  • Gweithiwr Datblygu Cymuned – helpu i greu chwarae diogel a deniadol a chreu cyfleoedd hamdden mewn cymunedau lleol.
  • Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd – defnyddio chwarae fel adnodd er mwyn ymgysylltu â phlant a theuluoedd sydd angen cymorth.

Iechyd a Llesiant

  • Arbenigwr Chwarae mewn Ysbyty (gydag anghenion pellach) – Cefnogi plant mewn ysbytai drwy chwarae er mwyn lleihau pwysau a phryder.
  • Gweithiwr Cymorth i blant ag ADY/AAA – defnyddio chwarae er mwyn diwallu anghenion dysgu a datblygu’r unigolyn.
  • Gweithiwr Gofal Preswyl – Cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal drwy chwarae strwythur a distrwythur.

Arweinyddiaeth a Chyfleoedd Pellach

  • Rheolwr Lleoliad – Cynnal clwb, ar ôl ysgol, clwb gwyliau new wasanaeth darparu chwarae.
  • Hyfforddwr / Aseswr mewn Gwaith Chwarae – dysgu a mentora gweithiwr chwarae y dyfodol.
  • Rôl Polisi neu Eiriolaeth – dylanwadu ar sut mae chwarae yn cael ei gwerthfawrogi a chefnogi ar haen ranbarthol a lleol.

Mae cymhwyster Gwaith Chwarae yn hyblyg iawn, gan fod chwarae yn tanategu dysgu, datblygiad, a llesiant. Gyda hyfforddiant pellach, gall chwarae hefyd gweithredu fel carreg sarn i ddysgu, gofal cymdeithasol, neu rolau therapi arbenigol.

Pob Hyfforddiant a Digwyddiad – Clybiau Plant Cymru (CY)