13.02.2026 |
Dysgu
Sefydlwyd y rhaglen Dysgu o 1 Medi 2025 i gefnogi datblygiad proffesiynol ein haddysgwyr yng Nghymru ac i wella canlyniadau i ddysgwyr.
Nod yr arolwg hwn yw darparu ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n diwallu anghenion ac yn mynd i’r afael â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rydym yn awyddus i ymgysylltu â chi’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth yn ymatebol, yn hygyrch, o ansawdd uchel, ac yn cyfrannu at ganlyniadau gwell.
Ers dechrau yn y rôl yn gynnar ym mis Tachwedd, rwyf wedi treulio amser yn gwrando ar gyfarwyddwyr, arweinwyr ysgolion a phenderfynwyr ynghylch yr heriau a’r uchelgeisiau ar draws y system.
Rydym wedi llunio arolwg byr, na ddylai gymryd llawer o’ch amser gwerthfawr i’w gwblhau.
Pwrpas yr arolwg yw eich helpu i rannu eich blaenoriaethau proffesiynol presennol fel addysgwr, fel y gallwn lunio cyfleoedd sy’n ymateb yn wirioneddol i’ch anghenion a’ch gofynion.
Byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn gallu rhannu dolen yr arolwg gyda’ch rhwydwaith, er mwyn galluogi arweinwyr ysgolion, athrawon a staff cymorth i leisio eu barn mewn modd anhysbys. Byddwn hefyd yn casglu safbwyntiau llywodraethwyr ysgol a staff nad ydynt yn addysgu ar wahân.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon neu unrhyw agwedd arall ar ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Dolen yr arolwg: https://online1.snapsurveys.com/dysgu
Gyda chofion cynnes,
Dr Gwenllian Lansdown Davies
gwenllian.lansdowndavies@dysgu.llyw.cymru