Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


A.F. Blakemore & Son

Ariannu drwy roddion ar gyfer y gymuned.

Mae grantiau ar gael i helpu i gefnogi achosion ac elusennau lleol drwy bedwar math o rodd:

  • Rhoddion mewn nwyddau
  • Rhoddion ariannol
  • Rhoddion cyfatebol (match-funding)
  • Rhoddion gan fanwerthwyr annibynnol

Gweld pa un yw’r dewis gorau i chi.