Adnewyddwch eich aelodaeth erbyn 31 Mai – wedi’i hariannu’n llawn a chael cod disgownt ar gyfer y gynhadledd

Dyma nodyn atgoffa cyfeillgar i adnewyddu eich aelodaeth Clwb Gofal Plant All-Ysgol cyn 31 Mai. Diolch i gefnogaeth gan The Moondance Foundation, mae aelodaeth wedi’i hariannu’n llawn eleni, gan roi cyfle i glybiau ledled Cymru barhau i gael mynediad at gefnogaeth, adnoddau a diweddariadau gwerthfawr heb unrhyw gost.

Drwy adnewyddu nawr, byddwch hefyd yn cael cod disgownt unigryw ar gyfer ein Cynhadledd a Seremoni Wobrau Gofal Plant All-Ysgol. Byddai’r diwrnod hwn yn un arbennig iawn, gan ddod â’r sector ynghyd i gael ysbrydoliaeth, dathlu a chysylltu wrth i ni nodi’r flwyddyn bwysig hon.

I adnewyddu, mewngofnodwch i’ch porth a diweddarwch eich manylion cyn 31 Mai. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gydag adnewyddu eich aelodaeth, cysylltwch â’n Gweinyddwr Aelodaeth cyfeillgar drwy membership@clybiauplantcymru.org neu ffoniwch 02920 741000. Byddwn yn hapus i helpu.