29.05.2026 |
Erthygl y mis – CCUHP I safon byw dda (Erthygl 27)
Mae Erthygl 27 Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i safon byw sy’n cefnogi ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol.
Dylai plant gael mynediad at y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i dyfu i fyny’n iach ac yn ddiogel, megis:
- Bwyd maethlon
- Cartref diogel ac addas
- Dillad glân
- Gofal iechyd a chymorth llesiant
Rhieni a gofalwyr sydd â’r prif gyfrifoldeb am ddarparu safon byw dda i’w plant. Rhaid i lywodraethau gefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol, drwy gynnig gwasanaethau, budd-daliadau a chymorth lle bo angen.
Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r hawl hon i bob plentyn sy’n mynychu, gan sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hyrwyddo drwy ymarfer corff a phrofiadau chwarae, ynghyd â byrbrydau neu brydau bwyd iach a maethlon tra byddant yn y clwb.
Mae safon byw dda ym mhob agwedd yn helpu plant i:
- Aros yn iach a datblygu’n briodol
- Teimlo’n ddiogel
- Cael cyfleoedd cyfartal i ddysgu a llwyddo
- Magu hyder a llesiant
Gallai hyn gynnwys:
- Sicrhau bod gan blant gartrefi cynnes a digon o fwyd
- Darparu mynediad at addysg, chwarae a gweithgareddau cymunedol
- Cefnogi teuluoedd drwy gymorth ariannol neu wasanaethau cymdeithasol
Mae Erthygl 27 yn sicrhau bod gan bob plentyn yr hyn sydd ei angen arno i ffynnu, a bod teuluoedd yn cael eu cefnogi fel y gall plant dyfu i fyny mewn amgylcheddau diogel, iach a gofalgar.