Powys: Cynllun Grantiau Bach Cyfalaf 2026/27 – Ceisiadau Ar Agor

Mae Powys yn falch o gyhoeddi bod y Cynllun Grantiau Bach Cyfalaf yn dychwelyd eleni.

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy’r ffurflen gais ar-lein (mae hefyd ar gael yn Saesneg).

Noder:

  • Ni ellir cadw’r ffurflen ar-lein ran o’r ffordd drwyddi, felly rhaid cwblhau ceisiadau mewn un sesiwn
  • Mae fersiwn Word o’r ffurflen gais wedi’i hatodi er gwybodaeth yn unig
  • Dim ond ceisiadau ar-lein fydd yn cael eu derbyn
  • Ar ôl cyflwyno’r cais, byddwch yn derbyn rhif cadarnhad – cadwch hwn fel tystiolaeth eich bod wedi cyflwyno’r cais.

Mae dogfennau canllaw wedi’u hatodi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Darllenwch y rhain yn ofalus cyn gwneud cais.

Enghreifftiau o Brosiectau a Ariannwyd yn Flaenorol

Roedd ceisiadau llwyddiannus y llynedd yn cynnwys:

  • Llochesi allan
  • Ffenestri a drysau newydd
  • Lloriau newydd
  • Arwynebau newydd ar gyfer y tu allan (ni fydd glaswellt artiffisial yn cael ei gymeradwyo)
  • Paentio ac addurno
  • Amnewid ffensys
  • Amnewid adnoddau sydd wedi treulio, wedi’u difrodi neu’n anniogel megis:
    • Pyllau tywod
    • Hambyrddau dŵr
    • Ceginau mwd (rhaid darparu tystiolaeth ffotograffig).

Enghreifftiau yn unig yw’r rhain. Os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn gymwys, ceisiwch gyngor cyn gwneud cais.

Gwybodaeth Bwysig

Y Broses Ymgeisio:

  • Nid yw ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin
  • Bydd pob cais yn cael ei adolygu gan banel ar ôl y dyddiad cau
  • Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod yn ysgrifenedig pan fydd penderfyniadau wedi’u gwneud.

Dyfynbrisiau/Amcangyfrifon:

  • Ar gyfer unrhyw waith sy’n fwy na £5,000, rhaid cyflwyno tri dyfynbris neu amcangyfrif

Dogfennau Ategol:

  • Sicrhewch fod yr holl ddogfennau gofynnol yn cael eu huwchlwytho fel rhan o’ch cais

Lleoliadau sy’n Seiliedig mewn Ysgolion:

  • Bydd ceisiadau sy’n cynnwys gwaith adeiladu neu waith allanol i leoliadau sy’n sefyll ar dir ysgol yn gofyn am fewnbwn gan Dîm Eiddo’r Ysgol
  • Ceisiwch gyngor cyn cyflwyno cais

Amodau Ariannu

Os bydd eich cais yn llwyddiannus:

  • Rhaid gwario’r cyllid erbyn 31 Mawrth 2027
  • Rhaid defnyddio’r cyllid yn unig ar gyfer yr eitemau a gymeradwywyd gan y panel.

 

Dyddiad Cau Ceisiadau: 12:00 canol dydd, dydd Llun 22 Mehefin 2026