19.06.2026 |
Diweddariadau CThEF
Mae rhifyn Mehefin o Fwletin y Cyflogwr yn dod â’r holl ddiweddariadau a’r canllawiau diweddaraf gan CThEF i’ch cefnogi fel cyflogwyr, gweithwyr cyflogres a’ch asiantau.
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys y diweddariadau pwysig canlynol:
- Cytundeb Setliad PAYE (PSA) – cytundebau a chau blwch post
- Cyflwyno talu buddion mewn nwyddau drwy’r gyflogres yn orfodol mewn camau
- Atgoffa i gyflwyno ffurflenni misol Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), neu wynebu cosbau am gyflwyno’n hwyr
- Taliad pensiwn ar gyfer enillwyr isel – yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
- Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 – camau i’w cymryd nawr
- Helpu eich gweithlu i fynd ymhellach – annog cyflwyno ffurflenni treth yn gynnar
Gallwch ddarllen y bwletin ar sgrin neu ei argraffu. Mae’n gydnaws â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.
Bydd CThEF yn parhau i anfon hysbysiadau e-bost atoch oni bai eich bod yn dewis dad-danysgrifio.
Bydd eich Bwletin Cyflogwr nesaf ym mis Awst 2026, a byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod pan fydd ar gael.