07/07/2026 |
Arweinydd Chwarae – Clwb Allysgol Corneli Sger Out of School Club
Dyddiad cau: 09/07/2026
Oriau: 30 awr yr wythnos (24 men clwb a 6 awr ar gyfer gwaith papur a thasgau eraill)
Dydd Llun – Dydd Gwener, yn ystod amser tymor a gwyliau’r ysgol
Oriau agor: 7:30 – 9:00am & 3:00-6:00pm yn ystod yr wythnos
Gwyliau Ysgol a diwrnodau HMS, ar agor o 7:30am – 6:00pm
Cyflog: Yn dechrauar£13.75 – £14 yn dibynnu ar brofiad
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Gweithiwr Chwarae Lefel 3, neu uwch, CCLD neu gyfwerth
- Byddai’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn fantais
- Cymorth cyntaf pediatrig neu barodrwydd i ennill tystysgrif
- Hylendid bwyd Lefel 2 a pharodrwydd i wneud Lefel 3
- Profiad rheoli o weithio mewn lleoliad gofal plant
Bydd angen gwiriad DBS Manylach ar gyfer y rôl hon.
Disgrifiad o’r dyletswyddau:
- Goruchwylio gweithrediadau dyddiol y Clwb Brecwast, y Clwb R’ôl Ysgol a’r Clwb Gwyliau
- Siopa am fyrbrydau i’r plant, eu trefnu a’u gweini
- Arwain ac ysgogi tîm o weithwyr gofal plant proffesiynol
- Sicrhau diogelwch a lles plant yn ein lleoliad
- Cynllunio a gweithredu gweithgareddau diddorol
- Cysylltu â rhieni, staff yr ysgol ac asiantaethau allanol
- Cadw cofnodion cywir a chydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol, gan eu cadw’n gyfredol a’u hadolygu
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, mynychu hyfforddiant rheolaidd, a chadw hyfforddiant staff yn gyfredol
Sut i ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at CACorneliSgerOSC@aol.com yn amlinellu eich diddordeb a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl. Bydd y swydd yn dechrau ym mis Medi 2026, gan weithio ochr yn ochr â’r rheolwr presennol drwy Wyliau’r Haf cyn y trosglwyddo.
Dyddiad cyfweld: 13/07/26 rhwng 1.30 a 3pm
Lleoliad y swydd: Clwb All-Ysgol Corneli Sger Out of School Club – Canolfan Blant Corneli, Greenfield Terrace, North Cornelly, Pen-y-bont ar Ogwr CF33 4LW
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.