Cyllid yn Abertawe ar gael: Cymorth Gofal Plant Gwyliau Haf ar gyfer Plant ADY

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y Peilot Cymorth Gofal Plant Gwyliau Haf yn Abertawe ar gyfer plant ADY yn cael ei lansio’r wythnos nesaf.

Mae’r peilot wedi’i gynllunio i helpu plant oed ysgol a theuluoedd gymwys i gael darpariaeth gofal plant a chwarae addas yn ystod gwyliau’r haf, drwy alluogi Clybiau Gofal Plant i gyflogi a thalu am Weithiwr Chwarae ychwanegol i gefnogi’r plentyn. Mae canllawiau ar gael sy’n nodi’n glir y broses atgyfeirio, meini prawf cymhwysedd a gwybodaeth ar gyfer darparwyr, ysgolion, partneriaid a gweithwyr proffesiynol a allai fod yn cefnogi teuluoedd. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau, manylion cyswllt allweddol a gwybodaeth am gymorth pellach gan dîm y prosiect.

Cymerwch amser i ddarllen y canllawiau a’u rhannu gyda chydweithwyr neu deuluoedd a allai elwa ar y peilot.

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â: riah@clybiauplantcymru.org