17.07.2026 |
Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Darpariaeth Cyn-ysgol / All-Ysgol mewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi comisiynu Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i archwilio ailagor meithrinfa Dechrau’n Deg yn Bedlinog. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar asesu dichonoldeb, nodi anghenion gofal plant, archwilio lleoliadau addas, a gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu darpariaeth gofal plant gynaliadwy o ansawdd uchel.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y sefydliad yma: Amdanom Ni – Clybiau Plant Cymru (CY)
Mynegiant o ddiddordeb
Mae cyfle wedi codi i ddarparwr newydd ailsefydlu darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg yn gymuned Bedlinog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, yn ogystal â darparu gwasanaeth i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd Bedlinog.
Gwahoddir Mynegiannau o Ddiddordeb gan bwyllgorau gwirfoddol a darparwyr preifat, gyda’r posibilrwydd y caiff ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer eu gwahodd i gyfweliad.
Rydym yn ceisio Mynegiannau o Ddiddordeb gan ddarparwyr presennol neu newydd sydd â gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth addas o’r gymuned leol yn ogystal â dealltwriaeth o’r sector gofal plant. Croesewir Mynegiannau o Ddiddordeb gan bob math o reolaeth sydd â llywodraethu cadarn. Anfonwch Fynegianau o Ddiddordeb at clared@clybiauplantcymru.org
Wrth gofrestru eich diddordeb, rhowch sylw byr i’r canlynol os gwelwch yn dda (dim mwy na 5 tudalen A4):
- Sut byddech chi’n sicrhau amgylchedd chwarae gofalgar, diogel ac ysgogol i blant 2–3 oed, yn ogystal ag o bosibl ar draws yr ystod oedran ehangach?
- Pa brofiad sydd gennych o gofrestru gydag AGC a/neu reoli darpariaeth gofal plant sydd wedi’i chofrestru ag AGC? Os nad ydych wedi gwneud hyn o’r blaen, beth yw eich dealltwriaeth o’r broses?
- Sut byddwch yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gynaliadwy ariannol?
- Sut byddech chi’n sefydlu beth yw’r galw am y ddarpariaeth, a sut byddech chi’n marchnata’r ddarpariaeth i sicrhau cynaliadwyedd?
- Beth yw eich strwythur llywodraethu / busnes cyfreithiol?
- Sut byddwch yn cefnogi staff ac yn annog eu datblygiad?
- Beth yw eich dull gweithredu a’ch dealltwriaeth o ddarpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar a chwarae, a sut byddwch yn sicrhau bod plant yn cael profiad o ansawdd yn y lleoliad?
- Sut byddwch yn cefnogi perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda rhieni/gofalwyr?
- Sut byddwch yn sicrhau bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol yn cael eu cynnal yn y gymuned leol / ysgolion?
- Beth yw eich dealltwriaeth o’r cymwysterau sydd eu hangen i redeg darpariaeth gofal plant ar gyfer plant 2-3 oed, ac o bosibl plant hŷn os oes galw i ehangu’r ddarpariaeth?
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich diddordeb yw dydd Gwener 7 Awst, a gall ymgeiswyr ar y rhestr fer gael cais i fynychu cyfweliad.