27.09.2026 |
Dathlu Cwlwm a’r Sector Gwaith Chwarae, Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn y Senedd
Wnaethom fwynhau digwyddiad amser cinio arbennig yn y Senedd ar 17 Medi, gan ddathlu’r bartneriaeth rhwng Cwlwm a’r sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a gwaith chwarae. Cafodd cyflwyniadau, panel o arbenigwyr, stondinau, cyfleoedd rhwydweithio a sgyrsiau eu bywiogi gan fan chwarae Rhannau Rhydd hydrefol yn yr adeilad hanesyddol eiconig, y Pierhead Building.
Roeddem wrth ein bodd yn croesawu plant a staff o Cymer Ofal, sef Clwb R’ôl Ysgol Cymraeg, yn ogystal â chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector. Diolch arbennig i Rebecca, yr oedd ei chyfraniad angerddol a’i mewnwelediad yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae, gwaith chwarae, darpariaeth Gymraeg a chlybiau Gofal Plant All-Ysgol. Roedd y plant a’r staff yn glod i’r clwb ac fe wnaethant helpu i greu awyrgylch cynnes a bywiog.
Diolch i bawb a ymunodd â ni ac a helpodd i ddechrau tymor y Senedd gydag ymrwymiad ar y cyd i roi’r dechrau gorau posibl i blant a theuluoedd.