Asesiad Gofal Plant All-Ysgol – Cefnogi’ch Clwb i Ffynnu

Mae rhedeg Clwb Gofal Plant All-Ysgol yn llwyddiannus yn golygu mwy na darparu cyfleoedd chwarae gwych. Mae llywodraethu cadarn yn gymorth i sicrhau bod eich clwb yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy, un sy’n creu amgylchedd cadarnhaol i blant, teuluoedd a staff.  

Mae’r Asesiad Gofal Plant All-Ysgol (AGPA) yn erfyn cefnogi sydd wedi’i gynllunio i helpu clybiau i adolygu eu harferion presennol, dathlu cryfderau a nodi cyfleoedd i ddatblygu. Trwy’r broses asesu, gall clybiau fyfyrio ar feysydd allweddol, yn cynnwys arweinyddiaeth, rheoli, polisïau, gweithdrefnau a threfniadau llywodraethu.  

At yr AGPA