Canllawiau Cynllunio at Argyfwng wedi’u Diweddaru ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant a Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau cynllunio at argyfwng ar gyfer lleoliadau addysg, gofal plant a chwarae. Wrth i’r gaeaf nesáu, dyma gyfle amserol i glybiau adolygu eu gweithdrefnau ar gyfer tywydd garw, toriadau pŵer, prinder dŵr a gorfod cau’n annisgwyl. 

Anogir lleoliadau i sicrhau bod eu cynlluniau argyfwng a’u manylion cyswllt yn gyfredol, a bod copïau papur ar gael os bydd tarfu ar systemau digidol. Dylai’r cynlluniau hefyd ystyried anghenion unigol plant y mae angen cymorth ychwanegol arnynt a’r gweithdrefnau ar gyfer hysbysu sefydliadau perthnasol am gau dros dro.

Canllawiau i leoliadau addysg a gofal plant ar gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt | LLYW.CYMRU