Disgrifiad
Diwrnod Ymarferol Gemau Buarth
Dewch i ailddarganfod hwyl gemau buarth yn y diwrnod ymarferol, llawn egni hwn ar gyfer gweithwyr chwarae!
Yn y sesiwn ymarferol hon, byddwn yn rhoi cynnig ar amrywiaeth o gemau Cymreig buarth ac iard , gan gynnwys ffefrynnau traddodiadol, gemau gweithredu, gemau erlid, gemau cylch a gweithgareddau grŵp syml y byddwch yn gallu defnyddio ar unwaith mewn lleoliadau gwaith chwarae.
Bydd cyfle i gyfranogwyr chwarae’r gemau eu hunain, magu hyder wrth ddefnyddio geiriau ac ymadroddion Cymraeg syml wrth chwarae, ac ystyried sut i addasu gemau cyfarwydd i ddiwallu anghenion gwahanol blant ac adlewyrchu eu diddordebau.
Yn ystod y diwrnod, byddwn yn rhoi cynnig ar gemau fel ‘Ga i groesi’r afon?’, ‘Faint o’r gloch ydy hi Mr Blaidd?’, ‘Hwyaden, Hwyaden, Gŵydd’ ac ‘Yr Eryr a’r Iâr’, ochr yn ochr â ffefrynnau bywiog eraill. Bydd y pwyslais ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn naturiol trwy chwarae.
Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried rôl y gweithiwr chwarae wrth gyflwyno gemau: gwybod pryd i ymuno a phryd i gamu’n ôl, cefnogi syniadau’r plant eu hunain a gadael i’r gemau newid, datblygu ac weithiau droi’n rhywbeth hollol wahanol!
Yn ystod y diwrnod, bydd cyfranogwyr yn:
- Profi amrywiaeth eang o gemau buarth drwy eu chwarae
- Dysgu geiriau ac ymadroddion Cymraeg syml y gallant eu defnyddio’n naturiol wrth chwarae gemau.
- Casglu syniadau am weithgareddau cost isel a di-gost i’w defnyddio mewn lleoliadau gwaith chwarae.
- Archwilio ffyrdd o addasu gemau er mwyn cynnwys pawb a’u helpu i gymryd rhan.
- Ystyried sut gall plant newid a datblygu rheolau a chreu eu rheolau eu hunain.
- Archwilio rôl y gweithiwr chwarae wrth gefnogi chwarae yn hytrach na’i gyfarwyddo.
- Rhannu gemau, rhigymau a thraddodiadau buarth o wahanol gymunedau.
Creu gêm fuarth newydd a rhoi cynnig arni gyda chyfranogwyr eraill.
Does dim angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg hyderus i gymryd rhan. Y pwyslais yw rhoi cynnig arni, cael hwyl a defnyddio’r Gymraeg wrth chwarae.
Dewch i chwarae, chwerthin a mwynhau!
Ar agor i Dysgwyr (gorffennol a phresennol) a Lleoliadau sy’n Aelodau yn unig.
Dyddiad ac amser: 18 Ionawr 2027, 18.30–20.30
Lleoliad: Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Bridge House, Station Road, Llanisien, Caerdydd CF14 5UW
