Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: Sesiynau Cynghori am Gyllid am Ddim Ar-lein yng Nghymru

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynnal sesiynau cynghori galw heibio ar-lein yn rheolaidd i bobl yng Nghymru. Gallwch ymuno i ofyn cwestiynau a dysgu mwy am yr hyn maent yn ei ariannu.

Mae croeso i bawb, p’un a ydych:

  • yn ystyried gwneud cais am gyllid;
  • eisoes yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol;
  • wedi derbyn cyllid ganddynt yn y gorffennol.

Cynhelir y sesiynau ar Microsoft Teams ac maent yn para awr, o 12.00pm tan 1.00pm. Cynhelir pob sesiwn yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly gallwch gael cyngor yn yr iaith sydd orau gennych.

Mae sesiynau ar gael o fis Rhagfyr 2026 hyd at fis Rhagfyr 2027. Gallwch weld yr holl ddyddiadau a chofrestru yma: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/newyddion/ymunwch-an-sesiynau-gwybodaeth-galw-heibio-am-ddim-yng-nghymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ffonio Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar 0300 123 0735 neu anfon e-bost at wales@tnlcommunityfund.org.uk