Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL

Nod y Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL yw cynnig cyfle i garfan o arweinwyr ac ymarferwyr CPEY i:

  • Cydnabod gwerth a phwysigrwydd dysgu proffesiynol gwrth-hiliol, fel
    continwwm ar draws y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.
  • Hwyluso gwerthfawrogiad o ffyrdd newydd o weithio er mwyn cyflawni newid critigol cynaliadwy drwy arweiniad proffesiynol gwrth-hiliaeth.
  • Rhannu profiadau cymheiriaid drwy ddeialog er mwyn ddatblygu cymuned ymarfer.
  • Hwyluso arweinwyr er mwyn dayblygu/cyfrannu at gynlluniau strategol sy’n cyd-fynd â’r Argymhellion yn Adroddiad yr Athro Charlotte Williams a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ARWAP) gan Lywodraeth Cymru.
  • Defnyddio a chyd-greu offer ac adnoddau i werthuso’n feirniadol a llywio diwylliant sefydliadol eu hunain.
  • Archwilio a datblygu llythrennedd hiliol.
  • Deilliannau Dysgu Proffesiynol DARPL ELS

 

Ar ôl lwyddo i gwblhau y Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL bydd y garfan CPEY yn gallu:

  • Cydnabod arweinyddiaeth wrth-hiliaeth ac arfer proffesiynol.
  • Codi ymwybyddiaeth drwy hunan-fyfyrio dilys estynedig, gan gynnwys archwilio gwynder, deinameg pŵer mewn arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol.
  • Diffinio (o fewn cyd-destun proffesiynol eu hunain) arferion allweddol o arweinyddiaeth gwrth-hiliol a thegwch hiliol.
  • Arwain / creu mannau diogel a dewr o fewn eu sefydliadau/ymarfer proffesiynol drwy ddiwygio polisi ac arfer.
  • Creu deunyddiau, polisïau ac adnoddau er mwyn cefnogi arfer a lles proffesiynol gwrth-hiliaeth.
  • Gweithredu dysgu proffesiynol drwy cyd-destun eu gwaith eu hunain.
  • Ymchwilio y heriau / rhwystrau sy’n bodoli i arweinwyr wrth symud o arfer cynhwysol generig i ddiwylliant sefydliadol cyfan gwrth-hiliol.
  • Datblygu meddwl beirniadol ar gydraddoldeb hiliol yn ymarferol.


Dyddiadau ac Amseroedd ar gyfer y Sesiynau

Mae pum sesiwn yn y gyfres hon (tair yn bersonol a dwy ar-lein) o Chwefror – Ebrill 2025*. Mae’n ofynnol i gyfranogwyr ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan.

  • Chwefror 6 – Sesiwn Wyneb yn Wyneb – Amser i’w gadarnhau: 9.00-3.30
  • Chwefror 18 – Ar-lein (yn y bore): 9.30-12.00
  • Mawrth 6 – Sesiwn Wyneb yn Wyneb – Amser i’w gadarnhau: 9.00-3.30
  • Mawrth 19 – Ar-lein (yn y prynhawn): 12.00-14.30
  • Ebrill 2 – Sesiwn Wyneb yn Wyneb – Amser i’w gadarnhau

Gan gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu prosesu eich archeb a threfnu eich lle ar y cwrs. >> DARPL Enhanced Leadership Series (ELS) for the Childcare, Play and the Early Years sector (Cwlwm) – Meithrin