23.01.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Pryd mae Wythnos Genedlaethol Dweu Stori?
Yn 2025, bydd Wythnos Genedlaethol Dweud Stori yn cael ei chynnal o Ionawr 27ain.
Beth yw Wythnos Genedlaethol Dweud Stori?
Mae’r digwyddiad blynyddol gwych hwn yn ddathliad llawen o bŵer rhannu straeon. Mae straeon yn ein dysgu am y byd; maent yn caniatáu inni gamu i esgidiau rhywun arall a theimlo empathi; maent yn ein helpu i ymlacio a dianc a gallant helpu i ddatblygu sgiliau llythrennedd hanfodol.
Beth yw ein thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Dweud Stori?
Ein thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Dweud Storï 2025 yw ‘Ail-ddychmygwch eich byd’. P’un a yw’n rhywbeth annisgwyl ar eich ffordd i’r ysgol, synau rhyfedd a glywch yn y nos, neu lwybr nad ydych erioed wedi’i ddilyn, mae’r byd o’n cwmpas yn llawn bywydau cyfrinachol, lleoedd a phosibiliadau. Gall y stori fwyaf rhyfeddol ddod o’r lle mwyaf cyffredin: y cyfan sydd ei angen yw rhywun i ddod o hyd iddi.