31.01.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cronfa i Gymru
Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol cymunedol cenedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig.
Mae’r gronfa ar hyn o bryd yn cael ei chefnogi drwy bartneriaeth gyda People’s Postcode Lottery.
Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau nad ydynt erioed wedi derbyn cyllid o’r Gronfa hon o’r blaen.
Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Grwpiau gyda chyfansoddiad
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmni cyfyngedig gan warant
- Cwmnïau buddiannau cymunedol
- Mentrau cymdeithasol
Mae’r gronfa hon yn cau Dydd Llun 17 Mis Chwefror 2025 am 12pm (hanner dydd).