Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS)

Os ydych yn cynnig gwasanaeth gofal plant a chwarae, bydd rhaid cwblhau’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) gan ddefnyddio AGC Ar-lein erbyn 14eg Mawrth 2025

Mae SASS yn ffurflen ar-lein y mae’n rhaid i Bersonau Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol ei llenwi. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob gwarchodwr plant a darparwyr gofal plant a chwarae sydd wedi cofrestru ag AGC cyn 31ain Rhagfyr 2024.

Ni fydd angen i ddarparwyr a gofrestrwyd ar ôl Rhagfyr 31ain 2024 llenwi’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth eleni

Bydd rhaid i chi gael cyfrif AGC ar-lein, er mwyn cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS). Bydd rhaid i chi gymryd camau brys os nad ydych â chyfrif AGC ar-lein.

  • Ewch i wefan AGC Ar-lein
  • Neu ffoniwch AGC ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

Ewch i dudalen awgrymiadau defnyddiol SASS AGC i gael canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS).