Diwrnodau Ymwybyddiaeth

06 Mawrth

Diwrnod y Llyfr

Bydd Diwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu ar y 6ed o Fawrth 2025. Eu cenhadaeth yw hybu darllen am bleser. Darllen am bleser yw’r dangosydd unigol mwyaf o lwyddiant plant yn y dyfodol – mwy nag amgylchiadau teulu, cefndir addysgol eu rhieni neu eu hincwm. https://www.worldbookday.com/

 

08 Mawrth

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Mewn byd sy’n wynebu argyfyngau lluosog sy’n rhoi pwysau aruthrol ar gymunedau, mae cyflawni cydraddoldeb rhywiol yn bwysicach nag erioed. Sicrhau hawliau merched ar draws pob agwedd ar fywyd yw’r unig ffordd i sicrhau economïau ffyniannus a chyfiawn, a phlaned iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.