08.05.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
A.F. Blakemore & Son
Ariannu drwy roddion ar gyfer y gymuned.
Mae grantiau ar gael i helpu i gefnogi achosion ac elusennau lleol drwy bedwar math o rodd:
- Rhoddion mewn nwyddau
- Rhoddion ariannol
- Rhoddion cyfatebol (match-funding)
- Rhoddion gan fanwerthwyr annibynnol
Gweld pa un yw’r dewis gorau i chi.