Erthygl y mis – CCUHP I safon byw dda (Erthygl 27)

Mae Erthygl 27 Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn datgan bod gan bob plentyn yr hawl i safon byw sy’n cefnogi ei ddatblygiad corfforolmeddyliolysbrydolmoesol a chymdeithasol.

Dylai plant gael mynediad at y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i dyfu i fyny’n iach ac yn ddiogelmegis:

  • Bwyd maethlon
  • Cartref diogel ac addas
  • Dillad glân
  • Gofal iechyd a chymorth llesiant

Rhieni a gofalwyr sydd â’r prif gyfrifoldeb am ddarparu safon byw dda i’w plant. Rhaid i lywodraethau gefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai a allai fod yn wynebu anawsterau ariannol, drwy gynnig gwasanaethau, budd-daliadau a chymorth lle bo angen.

Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r hawl hon i bob plentyn sy’n mynychu, gan sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hyrwyddo drwy ymarfer corff a phrofiadau chwarae, ynghyd â byrbrydau neu brydau bwyd iach a maethlon tra byddant yn y clwb.

Mae safon byw dda ym mhob agwedd yn helpu plant i:

  • Aros yn iach a datblygu’n briodol
  • Teimlo’n ddiogel
  • Cael cyfleoedd cyfartal i ddysgu a llwyddo
  • Magu hyder a llesiant

Gallai hyn gynnwys:

  • Sicrhau bod gan blant gartrefi cynnes a digon o fwyd
  • Darparu mynediad at addysg, chwarae a gweithgareddau cymunedol
  • Cefnogi teuluoedd drwy gymorth ariannol neu wasanaethau cymdeithasol

Mae Erthygl 27 yn sicrhau bod gan bob plentyn yr hyn sydd ei angen arno i ffynnu, a bod teuluoedd yn cael eu cefnogi fel y gall plant dyfu i fyny mewn amgylcheddau diogel, iach a gofalgar.