Gofod Rhithiol Teulu Cymru

Rwy’n falch o gyflwyno Gofod Rhithiol Teulu Cymru / Cymru Virtual Family Space – gwasanaeth digidol am ddim, cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) sydd wedi’i gynllunio i gefnogi rhieni a gofalwyr ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.   

Mae’r gwasanaeth yn cynnig ystod eang o gymorth ymarferol a hygyrch i deuluoedd ar bob cam o ddatblygiad eu plentyn, gan helpu i hyrwyddo plentyndodau mwy diogel, iachach a llawn gobaith.

Gall teuluoedd gael mynediad at gymorth ar-lein am ddim heb fod angen atgyfeiriad. Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys: 

  • Gweithdai byw, rhyngweithiol a ddarperir ar-lein ar adegau hyblyg (yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau), gyda phynciau cyfredol gan gynnwys Afiechydon Plant a Sut i’w Hatal, Cyfathrebu Cynnar, Hyfforddiant Poti, Cwsg, Grymuso Tadau a Gofalwyr Sy’n Ddynion, Barod i Ddechrau, Barod i Ddysgu.

Cymorth i rieni neu ofalwyr sy’n byw yng Nghymru | Barnardo’s 

  • Rhaglenni cymorth, gan gynnwys rhaglen cymorth awtistiaeth CYGNET ar gyfer rhieni a gofalwyr plant 5 i 18 oed sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu yr amheuir bod ganddynt awtistiaeth. 
  • Tudalennau Gofod Teulu sy’n cynnig cyngor dibynadwy, canllawiau, awgrymiadau a chynghorion 

 

Gofod Teulu: Cefnogaeth i rieni a gofalwyr | Barnardo’s  

Cymorth gan Weithiwr Cyswllt Teulu i helpu rhieni i ddewis y cymorth cywir 

Gall rhieni ymuno â sesiynau o gysur eu cartref eu hunain, gan wneud cymorth yn fwy hygyrch i deuluoedd a allai fel arall ei chael hi’n anodd mynychu wyneb yn wyneb. 

  

Mae hwn yn gynnig agored a chyffredinol i bob rhiant a gofalwr yng Nghymru, ac rydym yn awyddus i weithio ar y cyd â phartneriaid ar draws Awdurdodau Lleol, Iechyd, Addysg a’r Trydydd Sector i sicrhau bod cymaint o deuluoedd â phosibl yn ymwybodol o’r gwasanaeth ac yn elwa ohono. 

  

Byddwn yn croesawu’r cyfle i gyfarfod â chi i rannu mwy am y gwasanaeth, i fynychu cyfarfodydd tîm neu fforymau i gyflwyno’r cynnig i’ch staff ac i archwilio sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gefnogi teuluoedd yn eich ardal. 

  

Gallwch archwilio’r gwasanaeth yma: 

Cymorth i rieni neu ofalwyr sy’n byw yng Nghymru | Barnardo’s   

Support for parents or carers living in Wales | Barnardo’s 

  

Gobeithio clywed gennych yn fuan. 

  

Cofion cynnes, 

  

Rachel  

  

Rachel Cooper
Rheolwraig Gwasanaeth Plant 

Gofod Rhithiol Teulu Cymru 

  

Rachel.cooper@barnardos.org.uk