29.06.2026 |
Pleidleisiwch ar-lein nawr dros Glwb All-Ysgol, Dysgwr a Hyrwyddwr Chwarae yng Ngwobrau’r Flwyddyn 2026
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod pleidleisio ar gyfer Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026 bellach ar agor. Mae pleidleisio dros y rhai ar y rhestr fer ar gyfer Clwb y Flwyddyn, Dysgwr y Flwyddyn a Hyrwyddwr Chwarae’r Flwyddyn ar agor tan ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026, a bydd rhestr lawn yr enillwyr ar gyfer pob un o’n 11 categori gwobr yn cael ei chyhoeddi wedyn yn ein Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol wyneb yn wyneb gyntaf erioed ddydd Sadwrn 3 Hydref 2026 yn yr Holiday Inn, Caerdydd. **Dim ond un bleidlais gan un cyfeiriad e-bost fydd yn cael ei chyfrif.**
Cliciwch yma i bleidleisio dros enillydd gwobr Clwb All-Ysgol y Flwyddyn 2026
Cliciwch yma i bleidleisio dros enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2026
Cliciwch yma i bleidleisio dros enillydd gwobr Hyrwyddwr Chwarae’r Flwyddyn 2026