
03.09.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Mis Medi Ail-law 01-29 Mis Medi, 2025
Mae Mis Medi Ail-law yn ymgyrch blynyddol sy’n annog pobl i ail feddwl am eu harferion ffasiwn a chofleidio siopa ail-law.
Sut allai eich clwb gymryd rhan?
Ystyriwch:
- Rheilen ddillad i rieni rannu dillad y mae eu plentyn wedi tyfu allan ohonynt – gwisg chwaraeon, neu ysgol
- Amnest cot – gofynnwch i rieni roi unrhyw gotiau sydd ddim angen wrth i ni fynd i mewn i’r Gaeaf. Gofynnwch am rodd fach i gefnogi eich clwb.
Diwrnod Roald Dahl 13.09.2025
Yr wythnos hon mae hi’n Ddiwrnod Roald Dahl – sef diwrnod i ddathlu hud a rhyfeddod ei straeon!
Ystyriwch rai gweithgareddau –
- Ysgrifennwch gerddi gwych
- Trefnwch barti a gwneud byrbrydau blasus
- Lluniwch eiriau gwirion a rhaid i bawb geisio dyfalu beth maen nhw’n ei olygu
- Ewch i’r llyfrgell leol i ddod o hyd i gynifer o lyfrau Roald Dahl ag y gallwch
- Neu yn syml, crëwch gornel tawel i blant ddarllen llyfr o’u dewis