Ydych chi’n meddwl cael cymhwyster Lefel 2 mewn Arferion Gwaith Chwarae

Trosolwg Byr

Mae hwn yn gwrs gwych rhagarweiniol i Waith Chwarae, mae’n cynnwys cymysgedd da o wybodaeth ymarferol a damcaniaeth. Nid oes gofynion mynediad i ymrestru cyhyd â’ch bod dros 16 mlwydd oed. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o fuddiol i’r rhai sy’n gweithio mewn clybiau Gwyliau gan y bydd yn eich cymhwyso ar Lefel 2. Os byddwch yn gweithio mewn unrhyw leoliad Gwaith Chwarae arall bydd angen i chi symud ymlaen i wneud y Dystysgrif Lefel 2 i gael eich cyfrif yn aelod cymwysedig o’r tîm.

Beth sydd ar gael

Trwy ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein byddwch yn manteisio ar orau’r ddau fyd drwy ddysgu’n gyfunol. Byddwch hefyd yn cael ymweliad gan eich Swyddog Hyfforddi a fydd yn eich hyfforddi’n unigol ac yn arsylwi ar eich arferion.

Beth rhaid i chi wneud

  • Cwblhau gweithlyfrau.
  • Mynychu sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein
  • Cofnodi Oriau Ymarfer yn y lleoliad Gwaith chwarae (o leiaf 20 awr)
  • Cael eich arsylwi mewn lleoliad Gwaith Chwarae

Mynegiant o Ddiddordeb