29.05.2026 |
RhCT: Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar 2026-2027
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ar gyfer parhad y Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach, gyda’r nod o gefnogi darparwyr gofal plant sy’n gweithredu o fewn Rhondda Cynon Taf. Bwriad y grant yw helpu lleoliadau gofal plant i wneud gwelliannau cyfalaf hanfodol neu brynu offer a byddai’n:
- Gwella darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg
- Ehangu nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru, Dechrau’n Deg, a/neu raglenni Dysgu Sylfaen
- Gwella ansawdd cyffredinol y cyfleusterau ar gyfer plant sy’n cael mynediad at y gwasanaethau gofal plant hyn a ariennir.
I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr ddangos bod eu lleoliad gofal plan:
- Wedi’i leoli yn Rhondda Cynon Taf
- Wedi’i gofrestru’n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (neu’n mynd drwy’r broses gofrestru ar hyn o bryd wrth diwallu’r gofynion sylfaenol)
- Yn ymrwymo i ddarparu gofal plant drwy raglen a ariennir gan Llywodraeth Cymru am o leiaf bum mlynedd o ddyddiad dyfarnu’r grant
- Wedi’i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) a DEWIS.
Caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf cymhwystra a’r blaenoriaethau ariannu, gyda grantiau’n cael eu dyfarnu i brosiectau sy’n cynnig yr effaith gadarnhaol fwyaf ar ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Gwener, 12 Mehefin 2026.