05.06.2026 |
Gweithdy Cymraeg Achlysurol – Pen-y-bont ar Ogwr
Ydych chi’n awyddus i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eich lleoliad gofal plant? Ymunwch â’n Gweithdy Cymraeg Achlysurol ymarferol a difyr, a luniwyd i gefnogi ymarferwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn naturiol drwy gydol y dydd.
Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn eich helpu i archwilio ffyrdd syml o ymgorffori’r Gymraeg yn arferion bob dydd, cyfleoedd chwarae, a rhyngweithio gyda phlant. Byddwch yn caell dealltwriaeth gwell o’r Cynnig Gweithredol, yn darganfod amrywiaeth o adnoddau Cymraeg, ac yn dysgu technegau ymarferol i oresgyn rhwystrau cyffredin i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich lleoliad.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i archwilio adnoddau, offer a chyfleoedd hyfforddiant am ddim, gan gynnwys cyrsiau Camau Cymraeg, i gefnogi eu taith iaith barhaus.
P’un a ydych newydd ddechrau arni neu’n dymuno meithrin eich sgiliau presennol, bydd y gweithdy hwn yn cynnig syniadau ac ysbrydoliaeth werthfawr i helpu i greu amgylchedd mwy Cymraeg i blant a theuluoedd.
Archebu yma: https://clybiauplantcymru.org/cy/product/gweithdy-cymraeg-achlysurol-bridgend-07-07-2026-22675/