11.09.2026 |
Cyllid Ar Gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr – Grantiau Gwneud Gwahaniaeth 2026
Mae cyllid bellach ar gael i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) wedi lansio ei Rhaglen Grantiau Gwneud Gwahaniaeth 2026, gyda chyfanswm cronfa o £100,000 ar gael dros dair rownd yn ystod 2026-27.
Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol cymwys wneud cais am:
- Micrograntiau hyd at £500 – yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau llai, gweithgareddau cymunedol, digwyddiadau a phryniannau untro.
- Prif Grantiau hyd at £3,000 – ar gyfer prosiectau a gweithgareddau mwy a fydd yn sicrhau buddion clir i bobl a chymunedau lleol.
Gall y cyllid gefnogi ystod eang o weithgareddau a chostau, gan gynnwys prosiectau cymunedol, offer, costau gwirfoddolwyr, hyfforddiant, llogi lleoliadau, digwyddiadau, gweithgareddau amgylcheddol a diwylliannol, atgyweiriadau a chynnal a chadw, costau ynni a chyflawni prosiectau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn y rownd gyfredol yw 12 canol dydd ar 6 Hydref 2026.
Anogir sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i wirio’r meini prawf cymhwysedd llawn a’r canllawiau ymgeisio cyn cyflwyno cais.