18.09.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grant Cyfalaf Castell-nedd Port Talbot
Ydych chi’n awyddus i wella eich lleoliad gofal plant? Mae Cynllun Grant Cyfalaf Bach Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Cyngor Castell-nedd Port Talbot bellach ar agor, gan gynnig cyllid i helpu darparwyr gofal plant i wella cyfleusterau, ehangu darpariaeth a chefnogi mwy o deuluoedd drwy gydol y flwyddyn.
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n cryfhau darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, yn cynyddu argaeledd gofal plant ac yn cefnogi anghenion cymunedau lleol.
Croesewir ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd dydd, cynlluniau chwarae a chlybiau Gofal Plant All-Ysgol, yn ogystal â rhai darparwyr sydd wrthi’n mynd drwy broses gofrestru AGC.
Mae grantiau rhwng £10,000 a £20,000 ar gael, yn dibynnu ar nifer y lleoedd gofal plant cofrestredig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Eycu@npt.gov.uk
Cronfa Iechyd Meddwl a Lles Cymunedol Tata
Yn ystod hydref 2026, bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn lansio cronfa gymunedol newydd sy’n ceisio hyrwyddo iechyd meddwl a lles, a chefnogi cymunedau ac unigolion yr effeithiwyd arnynt gan drawsnewidiad Tata Steel.
Disgwylir y bydd dwy lefel o gyllid ar gael sy’n cysylltiedig â
Gronfa Iechyd Meddwl a Lles Cymunedol Tata:
- Grantiau Bach hyd at £10,000
- Grantiau Mawr hyd at £50,000
Mae CGGC Castell-nedd Port Talbot yn cynnal digwyddiad ar-lein ‘Cwrdd â’r Cyllidwr’ ddydd Mercher 30 Medi rhwng 11.30am a 12.30pm drwy Zoom. Bydd y sesiwn wybodaeth hon yn cynnwys cyflwyniad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot lle gallwch ddysgu mwy am y gronfa, y meini prawf cysylltiedig a’r mathau o brosiectau a gweithgareddau a fydd yn gymwys i gael cyllid. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau yn dilyn y cyflwyniad.
I archebu eich lle ar y sesiwn Cwrdd á’r Cyllidwr, ewch draw i’r wefan os gwelwch yn dda. https://www.eventbrite.co.uk/tatamentalhealthwellbeing