27.09.2026 |
Arolwg – Awdurdod Lleol Merthyr Tudful
Mae adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar y Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisiau deall anghenion gofal plant teuluoedd Cymru sydd â phlant rhwng 0 ac 17 oed.
Mae eich safbwyntiau’n bwysig iawn i ni a hoffem wybod mwy am eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau cofrestredig (h.y. gwasanaethau sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) a gofal plant heb ei gofrestru (mae nanis, au pairs a rhai clybiau gweithgaredd/chwaraeon yn dod i’r categori hwn, er enghraifft). Bydd eich barn yn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru ac yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau gofal plant. Er hynny, ni all awdurdodau lleol warantu y bydd modd bodloni pob cais am ddarpariaeth gofal plant.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau a gyhoeddir ar wefannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol (e.e. enwau, neu ddisgrifiadau o blant, a allai ei gwneud yn bosibl eu hadnabod).
Cliciwch ar y ddolen isod i gwblhau’r arolwg:
https://ymateb.gov.wales/s/PN47J5/
Survey of parents and carers – 2027 Childcare Sufficiency Assessments