02.10.2026 |
Beth mae Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ei olygu i Glybiau Gwyliau yng Nghymru
Mae Gofal Plant a Ariennir gan Lywodraeth Cymru yn darparu cymorth i deuluoedd ledled Cymru i gael mynediad at Ofal Plant Cofrestredig.
Ar hyn o bryd, mae ar gael i deuluoedd cymwys ac mae’n cynnwys mynediad at ofal plant yn ystod y gwyliau am hyd at 9 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn galluogi teuluoedd i:
- Ymrwymo i waith rheolaidd / cyflogaeth
- Cynyddu eu horiau gwaith
- Dechrau hyfforddiant
I Glybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gall hyn olygu:
- Lefelau presenoldeb uwch
- Ffynonellau incwm mwy sefydlog
- Mwy o gyfleoedd i ehangu gwasanaethau
- Mwy o welededd fel rhan hanfodol o seilwaith gofal plant lleol
I gael gwybod sut y gall Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs gefnogi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol i:
- Asesu ac adolygu cynlluniau busnes i nodi addasiadau a chyfleoedd posibl i wella darpariaeth gofal plant
- Cefnogi darparwyr i ddatblygu modelau busnes cadarn, gan gynnwys rhagolygon ariannol a chynllunio strategol
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata ac ymgysylltu i godi proffil gwasanaethau gofal plant yn lleol ac ymhellach
- Darparu cymorth busnes wedi’i deilwra i wella cynaliadwyedd, gwydnwch a chapasiti ar gyfer twf yn y dyfodol
Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant neu Swyddog Hyfforddiant rhanbarthol, a all gwblhau Asesiad Gofal Plant All-Ysgol (OSCA) gyda chi a darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch.