Pa gofnodion busnes sydd angen i chi eu cadw os ydych yn hunangyflogedig?

Cadw cofnodion ariannol cywir
Cadwch gofnodion busnes cywir fel y gallwch gyfrifo eich elw a’ch colled yn gywir a sicrhau bod gwybodaeth yn barod os bydd CThEF yn gofyn amdani.

Cofnodion i’w cadw

  • Gwerthiannau ac incwm busnes
  • Treuliau
  • Cofnodion TAW, os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW
  • Cofnodion Talu Wrth Ennill (PAYE), os ydych yn cyflogi pobl
  • Incwm personol
  • Unrhyw grantiau neu gymorth

Cadwch yr holl dderbynebau, anfonebau, cyfriflenni banc ac anfonebau gwerthu.

Trefnu cyllid eich busnes

Gall defnyddio cyfrif banc ar wahân ar gyfer trafodion busnes eu gwneud yn haws i’w hadnabod a’ch helpu i gadw cyllid busnes a chyllid personol ar wahân.

Gall meddalwedd cyfrifyddu syml hefyd eich helpu i reoli eich cofnodion. Mae FreeAgent yn opsiwn syml sydd am ddim os oes gennych gyfrif busnes gyda NatWest.

Gallwch ddewis rhwng dwy ffordd o gofnodi eich cyllid:
Sail arian parod: Cofnodwch arian pan fydd yn dod i mewn i’ch cyfrif neu’n gadael eich cyfrif.

Cyfrifyddu traddodiadol: Cofnodwch drafodion pan wneir y gwerthiant neu’r pryniant.

I gael rhagor o wybodaeth am ba ddull sy’n addas i chi, ewch i wefan CThEF.

Darllen mwy

Darllen mwy