Cynnig Gofal Plant: Grant Cymorth Ychwanegol

Diben y Grant Cymorth Ychwanegol Y Cynnig

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru (y Cynnig) yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i blant 3 a 4 mlwydd oed i rieni cymwys am 48 wythnos y flwyddyn.

Er mwyn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn un cynhwysol i blant cymwys sydd angen cymorth ychwanegol, mae cymorth wedi’i ddarparu drwy gyfrwng ffrwd ariannu ar wahân, sef Grant Cymorth Ychwanegol Cynnig Gofal Plant Cymru. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r arian hwn i sicrhau bod plant cymwys ag anghenion ychwanegol yn gallu manteisio ar elfen gofal plant Y Cynnig yn yr un modd â phlant cymwys eraill.

Cysylltwch â’ch tîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn eich Awdurdod Lleol neu Dîm Gofal Plant i ddarganfod mwy

Dewch o hyd i Wasanaeth Gwybodaeth Dewis er mwyn dod o hyd i’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol ledled Cymru