Tocynnau pris cynnar bellach ar werth ar gyfer y Gynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol

Rydym yn falch o’ch gwahodd i fynychu ein Cynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026, wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o gefnogi gwaith chwarae a Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru.

Mae’r digwyddiad eleni yn arbennig iawn gan mai hon fydd ein cynhadledd mewn person gyntaf erioed ar gyfer y sector Gofal Plant All-Ysgol, ynghyd â’n seremoni wobrwyo flynyddol. Bydd y diwrnod yn cynnwys rhaglen gyffrous o weithdai, siaradwyr gwadd, cyfleoedd i rwydweithio, a dathliad o’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws y sector.

Byddwn hefyd yn cynnal seremoni raddio arbennig i gydnabod dysgwyr sydd wedi cwblhau eu cymwysterau Gwaith Chwarae, gan wneud hwn yn digwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig a dathliadol.

Bydd uchafbwyntiau’r diwrnod yn cynnwys:

  • Dathliad o’n 25 mlwyddiant
  • Siaradwyr gwadd ysbrydoledig
  • Gweithdai rhyngweithiol a pherthnasol
  • Seremoni Gwobr Gofal Plant All-Ysgol 2026
  • Seremoni raddio ar gyfer dysgwyr Gwaith Chwarae

Dyddiad: 3 Hydref 2026

Lleoliad: The Holiday Inn, Canol Dinas CaerdyddCastle St, Caerdydd CF10 1XD

Amser: 9.00AM

Gallwch archebu eich lle drwy ein gwefan: 🎉Cynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026 (22670)🎉 – Clybiau Plant Cymru (CY)

Aelodau**

  • Prisiau tocynnau: £40.00 cyffredin
  • Pris cynnar: £35.00 tan 31 Gorffennaf

Pobl nad ydynt yn aelodau

  • Prisiau tocynnau: £45.00 cyffredin
  • Pris cynnar: £40.00 tan 31 Gorffennaf

Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hanesyddol hwn wrth inni ddathlu rhagoriaethcyflawniad a dyfodol y sector.

**Bydd aelodau ar 31 Mai 2026 yn cael cod disgownt unigryw drwy e-bost. Os nad ydych wedi cael eich cod, cysylltwch â ni’n uniongyrchol: membership@clybiauplantcymru.org