
16.02.2025
Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig
Clwb Hwbs
Mae’r Clwb Hwbs yn gyfres o weminarau rhyngweithiol misol rhad ac am ddim, sy’n rhoi cyfle i glybiau feddwl ar y cyd. Maent yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer Gweithwyr Chwarae, Rheolwyr ac Aelodau Pwyllgor, ac yn darparu tystysgrif electronig o’r presenoldeb.
Os ydych wedi mynychu un o’n Clwb Hwbs yn ddiweddar, llenwch y ffurflen werthuso os gwelwch yn dda.
Bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio i helpu cynllunio a gwella ein cymorth i chi.
Wedi’u hwyluso gan staff Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, gyda chyfleoedd i glywed gan siaradwyr gwadd arbenigol, mae’r sesiynau’n cwmpasu ystod o bynciau sydd wedi’u nodi fel cymorth sydd ei angen gan Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru. Yn aml, darperir pecyn adnoddau i fynychwyr ar ôl y sesiwn. Os ydych chi’n dymuno gwybod am Clwb Hwbs sydd ar y gweill, cliciwch ar y botwm isod:
Mae ein Grant o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ei ymestyn i 2026
Bydd ein prosiect parhad, ‘Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig’, a ariennir trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn galluogi Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Rhanbarthol o bob rhan o Gymru i barhau i gefnogi clybiau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau ar hyd a lled y wlad.
Darllenwch am ein blwyddyn gyntaf lwyddiannus yma
Fel arfer, Clybiau Gofal Plant Allysgol yw hybiau cymunedau; maent yn cynnwys gofal plant drwy’r Saesneg, y Gymraeg ac yn ddwyieithog i helpu teuluoedd wella eu hamgylchiadau. Maent wedi’u cymell i ddatblygu a gwella, ac yn llawn angerdd dros ddarparu cyfleodd i blant chwarae a ddim ond bod gyda’i gilydd, gan wneud yn sicr eu bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd wrth gadw’n gynaliadwy. Mae clybiau’n galluogi rhiant/gofalwyr o 45,000 o blant ar hyd a lled Cymru i hyfforddi, gweithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, trechu tlodi ac anghyfartaleddau a chefnogi’r canlyniadau gorau i blant.
Gyda’i fentora mewn sgiliau busnes, gweminarau a chynlluniau gweithredu, nod y prosiect yw sicrhau:
- Bod cymunedau yng Nghymru’n elwa o wasanaethau o ansawdd.
- Y bydd clybiau â llywodraethiad cryf a chadarn.
- Sector cynaliadwy yng Nghymru, sy’n cefnogi plant i chwarae a theuluoedd a chymunedau i ffynnu.
Ni allwn ddiolch ddigon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gefnogi cais parhad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gynorthwyo’r sector Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ar hyd a lled Cymru.
Cymerwch gipolwg ar rai o’n llwyddiannau isod.
- Curious Koalas
- Lixwm After School Club / LAFS Club
- Little Disciples Out of School Childcare
- Aros I Chwara
- Howardian Playtime Extra (CIC)
- Woodpeckers Out of School Club
- Ops After School Club
- Clwb Ar Ol Ysgol Tremeirchion
- Clwb Yr Enfys
- Deall cymorth ariannol gofal plant i rieni
- Camp Fantastic
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n Swyddfeydd Rhanbarthol:
Swyddfa Caerdydd: 029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Bae Colwyn: 01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Cross Hands: 01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org
Cysylltu a Chefnogi Clybiau a Chymunedau Allysgol 2020-2023
Trwy ein Prosiect a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ‘Cysylltu a Chefnogi Clybiau a Chymunedau Allysgol’, gweithiodd 3 Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Rhanbarthol gyda’n Cymuned Ofal Plant Allysgol i gyflawni’r canlynol:
- 98 cynllun gweithredu unigol wedi eu hadeiladu are u cryfderau;
- 2003 sesiwn sgiliau busnes, gwell llywodraethiad a sgiliau busnes;
- 45 cofrestriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yna’r Cynnig Gofal Plant / Gofal Plant Di-dreth, a gwell ansawdd a fforddiadwyedd;
- 44 digwyddiad rhwydwaith a chydweithio ag eraill i gefnogi’r sector.
Astudiaethau achos :
- Clwb Plant Amlwch
- Clwb Ol-Ysgol Cwmlai
- Clwb Plant Mynydd Helygain
- Clwb Hwyl, Sir y Fflint
- Funky Footsteps
- Twyn Caerphilly
- Heya Bina
- Clwb Allysgol Corneli Sger Out of School Club
- St Peter’s After School Club Wrexham
Dywedodd Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:
“Hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y dyfarniad grant, ac wrth gwrs rhai diolch i’r cyhoedd sy’n chwarae’r Loteri bob wythnos; ni fyddai’r ariannu, ac felly’r prosiect wedi bod yn bosibl.
Trwy’r prosiect hwn ceisiwn gefnogi clybiau ag ymweliadau wyneb yn wyneb a mentora mewn sgiliau busnes; gwella ansawdd chwarae a gofal mewn Clybiau Gofal Plant Allysgol drwy uwchsgilio Gweithwyr Chwarae a Rheolwyr; rhoi gwell mynediad i ddarpariaethau gofal a chwarae, gyda chlybiau wedi’u cofrestru â chynlluniau’r Llywodraeth; gwella fforddiadwyedd a darparu gofal plant a fydd, yn gyffredinol, yn fwy cynaliadwy â llywodraethiad da, ac a fydd yn rhoi parhad i’r gofal am blant.”
Adroddiad Blwyddyn 3 People & Places
Gwybodaeth am y Prosiect
Cysylltwch â’n Swyddfeydd Rhanbarthol â’ch awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio yr hoffech eu mynychu, neu os hoffech wybodaeth ychwanegol.
Swyddfa Caerdydd: 029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Bae Colwyn: 01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org
Swyddfa Cross Hands: 01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org
